OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2013 Rhif 2861 (Cy. 271) (C. 115)
TAI, CYMRU
Gorchymyn Deddf Atal Twyll Tai Cymdeithasol 2013 (Cychwyn) (Cymru) 2013
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn dod â Deddf Atal Twyll Tai Cymdeithasol 2013 i rym yng Nghymru. Daw’r Ddeddf i rym (ac eithrio adran 12, a ddaeth i rym drwy Gydsyniad Brenhinol) ar y diwrnod wedi’r diwrnod y gwneir y Gorchymyn hwn.
2013 Rhif 2861 (Cy. 271) (C. 115)
TAI, cymru
Gorchymyn Deddf Atal Twyll Tai Cymdeithasol 2013 (Cychwyn) (Cymru) 2013
Gwnaed 4 Tachwedd 2013
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 12(3) o Ddeddf Atal Twyll Tai Cymdeithasol 2013([1]), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Enwi
1. Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Atal Twyll Tai Cymdeithasol 2013 (Cychwyn) (Cymru) 2013.
Cychwyn a chymhwyso
2. Daw Deddf Atal Twyll Tai Cymdeithasol 2013 (ac eithrio adran 12) i rym mewn perthynas â Chymru ar y diwrnod wedi’r diwrnod y gwneir y Gorchymyn hwn.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Tai ac Adfywio, un o Weinidogion Cymru
4 Tachwedd 2013